YNGLŶN Â FUTURE FIT Y GIG

Mae a wnelo Future Fit y GIG â gwella’r gwasanaethau ysbyty sy’n cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Amwythig yn Amwythig ac yn Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford i ddiwallu anghenion ein cymunedau ledled Sir Amwythig, Telford & Wrekin a chanolbarth Cymru.

Ar ôl gwrando ar farn miloedd o bobl leol dros y pedair blynedd diwethaf, mae ein meddygon, ein nyrsys a staff gofal iechyd eraill wedi datblygu model gofal ysbyty newydd arfaethedig – sef un ysbyty i ddod yn safle GOFAL ARGYFWNG a’r ysbyty arall i ddod yn safle GOFAL CYNLLUNIEDIG, gyda CHANOLFAN GOFAL BRYS 24 AWR yn y ddau ysbyty. Mae yna ddau opsiwn ar gyfer cyflawni’r model gofal ysbyty hwn ac rydyn ni’n gofyn am eich barn chi. Cliciwch yma i fynd i ddweud eich dweud a chwblhau’r arolwg.

 

Beth ydy Future Fit?

Mae Rhaglen Future Fit y GIG yn cael ei arwain gan Grwpiau Comisiynu Clinigol Sir Amwythig a Telford – y sefydliadau sy’n gyfrifol am brynu a phenderfynu ar wasanaethau gofal iechyd yn Sir Amwythig a Telford & Wrekin ar eich rhan. Dyma’r enw ar y prosiect i adolygu’r gwasanaethau ysbyty a fydd yn cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Amwythig, Amwythig ac Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol, Telford yn y dyfodol.

 

Beth ydych chi’n gofyn i mi am fy marn arno?

Rydyn ni’n cynnig gwneud newidiadau i’r gwasanaethau ysbyty sy’n cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Amwythig ac Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol, Telford, fel bod un ysbyty’n darparu gwasanaethau gofal argyfwng a’r ysbyty arall yn darparu gwasanaethau gofal cynlluniedig. Fe fyddai gan y ddau ysbyty Ganolfan Gofal Brys sydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn ogystal â Gwasanaethau Cleifion Allanol a diagnosteg (profion pelydr-x, profion gwaed).

Rydyn ni’n gofyn am eich barn chi ar ddau opsiwn:

  • Opsiwn 1: Daw Ysbyty Brenhinol Amwythig yn safle Gofal Argyfwng a daw Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn safle Gofal Cynlluniedig. Dyma’r opsiwn y mae’r Grwpiau Comisiynu Clinigol yn ei ffafrio
  • Opsiwn 2: Daw Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn safle Gofal Argyfwng a daw Ysbyty Brenhinol Amwythig yn safle Gofal Cynlluniedig.

Dan y naill opsiwn neu’r llall, fe fyddai gan y ddau ysbyty Ganolfan Gofal Brys a fyddai ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

 

Pam ydych chi eisiau newid gwasanaethau ysbyty?

Mae angen i ni wneud newidiadau i’r gwasanaethau ysbyty yn Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford ac Ysbyty Brenhinol Amwythig fel ein bod ni’n gallu gwneud yn siŵr ein bod ni’n darparu gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel i bob claf yn y tymor hir.

Fe fyddai cael safle Gofal Argyfwng a safle Gofal Cynlluniedig ar wahân, gyda chanolfan gofal brys 24 awr yn y ddau ysbyty’n helpu i wneud yn siŵr:

  • Bod cleifion yn derbyn y gofal gorau oll yn y lle iawn ar yr adeg iawn
  • Ei bod hi’n annhebygol iawn y caiff llawdriniaethau cleifion eu canslo oherwydd bod claf wedi’i dderbyn mewn argyfwng
  • Ein bod ni’n cwtogi ar amseroedd aros i gleifion yn ein dau ysbyty
  • Ein bod ni’n gallu darparu cyfleusterau gwell o lawer i’n cleifion a’n staff
  • Ein bod ni’n denu’r meddygon gorau oll i weithio yn ein hysbytai
  • Ein bod ni’n gallu bod yn fwy effeithlon â’n hadnoddau
  • Ein bod ni’n gallu cynllunio i’r dyfodol gan ystyried newidiadau disgwyliedig i’n poblogaeth, gyda mwy o bobl yn byw’n hirach a chyda chyflyrau tymor hir
  • Ein bod ni’n gallu cwtogi ar yr amser y mae pobl yn ei dreulio yn yr ysbyty
  • Ein bod ni’n gallu parhau i gael dau ysbyty prysur a bywiog yn ein sir

 

Beth ydy Gofal Brys a ble fuaswn i’n mynd i’w gael?

Gofal ar gyfer clefydau ac anafiadau nad ydyn nhw’n bygwth colli bywyd neu aelod o’r corff ond sy’n galw am sylw brys ydy gofal brys. Ymhlith yr enghreifftiau o hyn mae braich sydd efallai wedi torri, mân losg neu sgaldiad, neu friw sydd angen ei bwytho. Dan ein cynnig, fe fyddai yna Ganolfan Gofal Brys yn y ddau ysbyty, yn darparu gofal brys i bobl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Ein hamcangyfrif yw y byddai modd trin mwy na 60% o’r bobl sy’n cael eu trin yn un o’n hadrannau damweiniau ac achosion brys ar hyn o bryd yn ein canolfannau gofal brys newydd. Fe fyddai gweithwyr iechyd proffesiynol uwch tra medrus, sydd wedi’u hyfforddi’n benodol i ddarparu gofal brys i oedolion a phlant, yn staffio’r canolfannau.

 

Beth ydy Gofal Cynlluniedig a ble fuaswn i’n mynd i’w gael?

Llawdriniaethau, gweithdrefnau ac apwyntiadau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw ydy gofal cynlluniedig. Dan ein cynnig, fe fyddai’r rhan fwyaf o ofal cynlluniedig yn digwydd ar y safle Gofal Cynlluniedig. I’r mwyafrif o gleifion, achosion dydd ydy eu llawdriniaeth gynlluniedig y dyddiau hyn, ac fe fydd y rhan fwyaf o’r llawdriniaethau hyn yn digwydd ar y safle Gofal Cynlluniedig. Fodd bynnag, os ydy’ch risg yn uchel, neu os ydych chi’n blentyn, fe fyddai’r llawdriniaeth yn digwydd ar y safle Gofal Argyfwng.

 

Beth ydy Gofal Argyfwng a ble fuaswn i’n mynd i’w gael?

Gofal heb ei gynllunio ydy gofal argyfwng. Mae cleifion yn ei dderbyn pan mae clefyd neu anaf yn bygwth colli bywyd neu aelod o’r corff. Dan ein cynnig, fe fyddai’r holl ofal argyfwng yn digwydd ar y safle Gofal Argyfwng. Fe fyddai amrywiaeth eang o fuddion yn dod yn sgil hyn:

  • Fe fyddai meddygon a nyrsys arbenigol amrywiol, i gyd ar un safle, yn gweld cleifion yn gyflymach, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos
  • Fe fyddai’n llai tebygol y byddai llawdriniaeth cleifion yn cael ei chanslo oherwydd nad oes gwely ar gael gan fod claf wedi’i dderbyn mewn argyfwng
  • Fe fyddai modd asesu mwy o gleifion yn gyflym, arsylwi arnyn nhw, eu trin a’u rhyddhau yr un diwrnod, gan osgoi’r angen i aros yn yr ysbyty dros nos

 

Pam i’r Grwpiau Comisiynu Clinigol ddewis Opsiwn 1 fel yr opsiwn y maen nhw’n ei ffafrio – sef i Ysbyty Brenhinol Amwythig ddod yn safle Gofal Argyfwng ac i Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol ddod yn safle Gofal Cynlluniedig?

Mae yna bedwar prif reswm pam i’r Grwpiau Comisiynu Clinigol ddewis Opsiwn 1 fel yr opsiwn y maen nhw’n ei ffafrio:

  • Byddai cael y safle Gofal Argyfwng yn Ysbyty Brenhinol Amwythig yn golygu y gallai barhau i fod yn Uned Drawma
  • Fe fyddai cael y safle Gofal Argyfwng yn Amwythig yn golygu y byddai’n rhaid i lai o bobl deithio’n bellach i gael gofal argyfwng
  • Y byddai’n diwallu anghenion ein poblogaeth hŷn yn well yn y dyfodol, yn enwedig yn Sir Amwythig a chanolbarth Cymru
  • Dyma sy’n cynnig y gwerth gorau am arian yn y tymor hir

 

Sut alla’ i ddweud fy nweud?

Y ffordd hawsaf i ddweud eich dweud ydy llenwi ein harolwg, sydd ar gael ar ein gwefan www.nhsfuturefit.org neu yn nhudalennau canol ein dogfen ymgynghori. Ffoniwch 0300 3000 903 neu anfonwch e-bost i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. i ofyn am gopi. Mae yna hefyd fersiwn gryno a fersiwn Hawdd i’w Ddarllen ar gael ar ein gwefan, yn ogystal â mwy o Gwestiynau Cyffredin, fideos a manylion am bob cyfarfod a digwyddiad.